Pan fwy'n myned drwy Iorddonen, Angau creulon yn ei rym, Aethost drwyddi gynt dy hunan, Pam yr ofnaf bellach ddim? Buddugoliaeth! Gwna i mi weiddi yn y llif. Ymddiriedaf yn dy allu, Mawr yw'r gwaith a wnest erioed; Ti gest angau, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed: Pen Calfaria, Nac aed hwnnw byth o'm cof.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Agor y ffynhonnau melus Arglwydd arwain trwy'r anialwch Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf Gwaed dy groes sy'n codi i fyny Ymddiriedaf ynot Iesu |
When I am going through Jordan, Cruel death in its force, Thou went through it once thyself, Why shall I fear anything henceforth? Victory! Make me shout in the flood. I shall trust in thy power, Great is the work thou ever did; Thou got death, thou got hell, Thou got Sataan undter thy foot: The head of Calvary, That shall never go from my memory.tr. 2024 Richard B Gillion |
|